2. cymer hefyd beilliaid gwenith heb furum, a gwna fara, cacennau wedi eu cymysgu ag olew, a theisennau ag olew wedi ei daenu arnynt.
3. Rho hwy mewn un fasged i'w cyflwyno gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
4. Yna tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr.
5. Cymer y dillad, a gwisgo Aaron â'r siaced, mantell yr effod, yr effod ei hun a'r ddwyfronneg, a gosod wregys yr effod am ei ganol.
6. Gosod y benwisg ar ei ben, a rho'r goron gysegredig ar y benwisg.
7. Cymer olew'r ennaint a'i dywallt ar ei ben, a'i eneinio.
8. Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;
9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.
10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
11. yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12. Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.
13. Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.
14. Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.
15. “Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;