7. Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau.
8. Bydd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu.
9. Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel
10. yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall.
11. Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu sêl, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur.
12. Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD.
13. Gwna edafwaith o aur,
14. a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.
15. “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.
16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
17. Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
18. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
19. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
20. yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
21. Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
22. Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
23. a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.