Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:26-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Gwna hefyd ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.

27. Yna, gwna ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.

28. Y mae bachau'r ddwyfronneg i'w rhwymo wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod.

29. Felly, pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r cysegr, bydd yn dwyn enwau meibion Israel ar ei galon yn y ddwyfronneg barn, yn goffadwriaeth wastadol gerbron yr ARGLWYDD.

30. Rho'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg barn, iddynt fod ar galon Aaron pan fydd yn mynd gerbron yr ARGLWYDD; felly, bydd Aaron yn dwyn barnedigaeth pobl Israel ar ei galon gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.

31. “Gwna fantell yr effod i gyd o sidan glas,

32. a thwll yn ei chanol ar gyfer y pen, a gwnïad o'i amgylch fel y twll a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.

33. O amgylch godre'r fantell gwna bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a chlychau aur rhyngddynt;

34. bydd clychau aur a phomgranadau bob yn ail o amgylch godre'r fantell.

35. Bydd Aaron yn ei gwisgo wrth wasanaethu, ac fe glywir sŵn y clychau pan â Aaron i mewn i'r cysegr gerbron yr ARGLWYDD, a phan ddaw allan; felly ni bydd farw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28