Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:25-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.

26. Gwna hefyd ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.

27. Yna, gwna ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.

28. Y mae bachau'r ddwyfronneg i'w rhwymo wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod.

29. Felly, pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r cysegr, bydd yn dwyn enwau meibion Israel ar ei galon yn y ddwyfronneg barn, yn goffadwriaeth wastadol gerbron yr ARGLWYDD.

30. Rho'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg barn, iddynt fod ar galon Aaron pan fydd yn mynd gerbron yr ARGLWYDD; felly, bydd Aaron yn dwyn barnedigaeth pobl Israel ar ei galon gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.

31. “Gwna fantell yr effod i gyd o sidan glas,

32. a thwll yn ei chanol ar gyfer y pen, a gwnïad o'i amgylch fel y twll a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.

33. O amgylch godre'r fantell gwna bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a chlychau aur rhyngddynt;

34. bydd clychau aur a phomgranadau bob yn ail o amgylch godre'r fantell.

35. Bydd Aaron yn ei gwisgo wrth wasanaethu, ac fe glywir sŵn y clychau pan â Aaron i mewn i'r cysegr gerbron yr ARGLWYDD, a phan ddaw allan; felly ni bydd farw.

36. “Gwna hefyd blât o aur pur, ac argraffa arno, fel ar sêl, ‘Sanctaidd i'r ARGLWYDD’,

37. a chlyma ef ar flaen y benwisg â llinyn glas.

38. Bydd ar dalcen Aaron, ac yntau'n cymryd arno'i hun euogrwydd pobl Israel wrth iddynt gysegru eu rhoddion sanctaidd; bydd ar ei dalcen bob amser, er mwyn iddynt gael ffafr gerbron yr ARGLWYDD.

39. “Yr wyt i wau siaced o liain main, a gwneud penwisg hefyd o liain main, a gwregys wedi ei wnïo.

40. Gwna hefyd siacedau, gwregysau a chapiau i feibion Aaron; gwna hwy er gogoniant a harddwch.

41. Yr wyt i'w gwisgo am Aaron dy frawd a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.

42. Gwna iddynt hefyd lodrau o liain i guddio'u cnawd noeth, o'u llwynau at y glun.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28