Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.

16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.

17. Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;

18. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28