13. Gwna edafwaith o aur,
14. a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.
15. “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.
16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
17. Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
18. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
19. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
20. yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
21. Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
22. Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
23. a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
24. Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
25. a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.