Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Galw atat o blith pobl Israel dy frawd Aaron a'i feibion er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid: Aaron a'i feibion, Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

2. Gwna wisgoedd cysegredig ar gyfer dy frawd Aaron, er gogoniant a harddwch.

3. Dywed wrth bawb sy'n fedrus, pob un yr wyf wedi ei ddonio â gallu, am wneud dillad i Aaron er mwyn ei gysegru'n offeiriad i mi.

4. Dyma'r dillad y maent i'w gwneud: dwyfronneg, effod, mantell, siaced wau, penwisg a gwregys; y maent i wneud y gwisgoedd cysegredig i'th frawd Aaron ac i'w feibion, iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.

5. “Y maent i gymryd aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main,

6. a gwneud yr effod o'r aur, y sidan glas, porffor ac ysgarlad, a'r lliain main wedi ei nyddu a'i wnïo'n gywrain.

7. Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau.

8. Bydd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu.

9. Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel

10. yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall.

11. Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu sêl, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur.

12. Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD.

13. Gwna edafwaith o aur,

14. a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28