8. Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.
9. “Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
10. bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
11. Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
12. Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed.
13. Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.
14. Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,
15. a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed.
16. Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.
17. Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.
18. Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, â llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.