1. “Gwna allor sgwâr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.
2. Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.
3. Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.
4. Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.
5. Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.
6. Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.
7. Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.
8. Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.
9. “Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
10. bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
11. Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
12. Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed.