4. Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
5. Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.
6. Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd â'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
7. “Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.
8. Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
9. Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.
10. Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
11. “Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.
12. Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu ôl i'r tabernacl.
13. Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio.
14. Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.
15. “Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
16. pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
17. a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.
18. Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,
19. a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon;
20. ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm
21. a deugain troed arian, dau dan bob ffrâm;