Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 26:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.

2. Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

3. Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd.

4. Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

5. Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.

6. Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd â'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

7. “Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

8. Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

9. Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.

10. Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

11. “Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 26