Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 24:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo.” Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, “Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi yn unol â'r holl eiriau hyn.”

9. Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel,

10. a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.

11. Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Tyrd i fyny ataf i'r mynydd, ac aros yno; yna fe roddaf iti lechau o gerrig, gyda'r gyfraith a'r gorchymyn a ysgrifennais ar eu cyfer i'w hyfforddi.”

13. Felly cododd Moses a'i was, Josua, ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.

14. Dywedodd wrth yr henuriaid, “Arhoswch yma amdanom nes inni ddod yn ôl atoch; bydd Aaron a Hur gyda chwi, ac os bydd gan rywun gŵyn, aed atynt hwy.”

15. Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl.

16. Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.

17. Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel tân yn difa ar ben y mynydd.

18. Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 24