Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Os gweli asyn y sawl sy'n dy gasáu yn crymu dan ei lwyth, paid â'i adael fel y mae, ond dos i estyn cymorth iddo.

6. “Paid â gwyro barn i'r tlawd yn ei achos.

7. Ymgadw oddi wrth eiriau celwyddog, a phaid â difa'r dieuog na'r cyfiawn, oherwydd ni byddaf fi'n cyfiawnhau'r drygionus.

8. Paid â derbyn llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu'r un mwyaf craff ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

9. “Paid â gorthrymu'r estron, oherwydd fe wyddoch chwi beth yw bod yn estron am mai estroniaid fuoch yng ngwlad yr Aifft.

10. “Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch,

11. ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.

12. “Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, er mwyn i'th ych a'th asyn gael gorffwys, ac i fab dy gaethferch ac i'r estron gael dadflino.

13. Gofalwch gadw'r holl bethau a ddywedais wrthych, a pheidiwch ag enwi duwiau eraill na sôn amdanynt.

14. “Yr wyt i gadw gŵyl i mi deirgwaith y flwyddyn.

15. Yr wyt i gadw gŵyl y Bara Croyw; fel y gorchmynnais iti, yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, oherwydd yn ystod y mis hwnnw y daethost allan o'r Aifft. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.

16. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynhaeaf â blaenffrwyth yr hyn a heuaist yn y maes. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn, pan wyt yn casglu o'r maes ffrwyth dy lafur.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23