Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynhaeaf â blaenffrwyth yr hyn a heuaist yn y maes. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn, pan wyt yn casglu o'r maes ffrwyth dy lafur.

17. Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw deirgwaith y flwyddyn.

18. “Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â gadael braster fy ngwledd yn weddill hyd y bore.

19. “Yr wyt i ddod â'r cyntaf o flaenffrwyth dy dir i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw.“Paid â berwi myn yn llaeth ei fam.

20. “Edrych, yr wyf yn anfon angel o'th flaen, i'th warchod ar hyd y ffordd a'th arwain i'r man yr wyf wedi ei baratoi.

21. Bydd ufudd iddo a gwrando arno; paid â'i wrthwynebu, oherwydd fy awdurdod i sydd ganddo, ac ni fydd yn maddau eich pechodau.

22. “Os gwrandewi'n ofalus arno, a gwneud y cwbl a ddywedaf, byddaf yn elyn i'th elynion, ac fe wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.

23. “Bydd fy angel yn mynd o'th flaen ac yn dy arwain at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid, a Jebusiaid, a byddaf yn eu difodi.

24. Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.

25. Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.

26. Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23