Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Paid â lledaenu straeon ofer. Paid ag ymuno â'r drygionus i fod yn dyst celwyddog.

2. Paid â dilyn y lliaws i wneud drwg, nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn wrth dystio mewn achos cyfreithiol.

3. Paid â dangos ffafr tuag at y tlawd yn ei achos.

4. “Pan ddoi ar draws ych dy elyn neu ei asyn yn crwydro, dychwel ef iddo.

5. Os gweli asyn y sawl sy'n dy gasáu yn crymu dan ei lwyth, paid â'i adael fel y mae, ond dos i estyn cymorth iddo.

6. “Paid â gwyro barn i'r tlawd yn ei achos.

7. Ymgadw oddi wrth eiriau celwyddog, a phaid â difa'r dieuog na'r cyfiawn, oherwydd ni byddaf fi'n cyfiawnhau'r drygionus.

8. Paid â derbyn llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu'r un mwyaf craff ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.

9. “Paid â gorthrymu'r estron, oherwydd fe wyddoch chwi beth yw bod yn estron am mai estroniaid fuoch yng ngwlad yr Aifft.

10. “Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch,

11. ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23