Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 22:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Os yw rhywun yn lladrata ych neu ddafad ac yn ei ladd neu ei werthu, y mae i dalu'n ôl bum ych am yr ych, a phedair dafad am y ddafad.

2. “Os bydd rhywun yn dal lleidr yn torri i mewn, ac yn ei daro a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed;

3. ond os yw'n ei ddal ar ôl i'r haul godi, fe fydd yn euog o'i waed.“Y mae lleidr i dalu'n ôl yn llawn, ac os nad oes dim ganddo, y mae ef ei hun i'w werthu am ei ladrad.

4. “Os ceir yn fyw ym meddiant lleidr anifail wedi ei ddwyn, boed yn ych neu'n asyn neu'n ddafad, y mae'r lleidr i dalu'n ôl ddwbl ei werth.

5. “Pan yw rhywun yn gadael ei faes neu ei winllan i'w pori, ac yna'n gyrru ei anifail i bori ym maes rhywun arall, y mae i dalu'n ôl o'r pethau gorau sydd yn ei faes a'i winllan ei hun.

6. “Pan yw tân yn torri allan ac yn cydio mewn drain ac yn difa ysgubau ŷd, neu ŷd heb ei fedi, neu faes, y mae'r sawl a gyneuodd y tân i dalu'n ôl yn llawn.

7. “Pan yw rhywun yn rhoi i'w gymydog arian neu ddodrefn i'w cadw iddo, a'r rheini'n cael eu lladrata o'i dŷ, y mae'r lleidr, os delir ef, i dalu'n ôl yn ddwbl.

8. Os na ddelir y lleidr, dyger perchennog y tŷ o flaen Duw i weld a estynnodd ei law at eiddo'i gymydog ai peidio.

9. “Mewn unrhyw achos o drosedd ynglŷn ag ych, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth coll y mae rhywun yn dweud mai ei eiddo ef ydyw, dyger achos y ddau o flaen Duw; ac y mae'r sawl y bydd Duw yn ei gael yn euog i dalu'n ôl yn ddwbl i'w gymydog.

10. “Pan yw rhywun yn rhoi asyn, ych, dafad, neu unrhyw anifail i'w gymydog i'w gadw iddo, a'r anifail yn marw, neu'n cael ei niweidio, neu ei gipio ymaith, heb i neb ei weld,

11. y mae'r naill i dyngu i'r llall yn enw'r ARGLWYDD nad yw wedi estyn ei law at eiddo'i gymydog; y mae'r perchennog i dderbyn hyn, ac nid yw'r llall i dalu'n ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 22