Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:5-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Ond os dywed y caethwas, ‘Yr wyf yn caru fy meistr a'm gwraig a'm plant, ac nid wyf am fynd ymaith’,

6. yna y mae ei feistr i ddod ag ef at Dduw, a'i ddwyn at y drws neu'r cilbost, a thyllu trwy ei glust â mynawyd; wedyn, bydd y caethwas yn ei wasanaethu am byth.

7. “Pan yw gŵr yn gwerthu ei ferch i gaethiwed, ni chaiff hi fynd yn rhydd fel y gweision caeth.

8. Os nad yw'n boddhau ei meistr, ac yntau wedi ei neilltuo iddo'i hun, gadawer iddi gael ei phrynu'n ôl; ond nid oes ganddo'r hawl i'w gwerthu i estroniaid, gan ei fod wedi torri cytundeb â hi.

9. Os yw wedi ei neilltuo ar gyfer ei fab, y mae i'w thrin fel ei ferch ei hun.

10. Os yw'r meistr yn priodi gwraig arall, nid yw i leihau dim ar fwyd y gaethferch na'i dillad na'i hawliau priodasol.

11. Os yw'n methu yn un o'r tri pheth hyn, caiff y gaethferch fynd ymaith heb dalu dim arian.

12. “Pwy bynnag sy'n taro rhywun a'i ladd, rhodder ef i farwolaeth.

13. Os na chynlluniodd hynny, ond bod Duw wedi ei roi yn ei afael, caiff ffoi i'r lle a neilltuaf iti.

14. Os bydd rhywun yn ymosod yn fwriadol ar ei gymydog a'i ladd trwy frad, dos ag ef ymaith oddi wrth fy allor a'i roi i farwolaeth.

15. “Pwy bynnag sy'n taro'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16. “Pwy bynnag sy'n cipio rhywun i'w werthu neu i'w gadw yn ei feddiant, rhodder ef i farwolaeth.

17. “Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

18. “Pan yw rhai'n cweryla, ac un yn taro'r llall â charreg neu â'i ddwrn, a hwnnw'n gaeth i'w wely, ond heb farw,

19. ac yna'n codi ac yn cerdded oddi amgylch â'i ffon, ystyrier y sawl a'i trawodd yn ddieuog; nid oes rhaid iddo ond ei ddigolledu am ei waith, a gofalu ei fod yn holliach.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21