Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:20-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. “Pan yw rhywun yn taro'i gaethwas neu ei gaethferch â ffon, a'r caeth yn marw yn y fan, cosber y sawl a'i tarodd.

21. Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.

22. “Pan yw dynion wrth ymladd â'i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae'r dyn i dalu'r ddirwy sy'n ddyledus i'w gŵr ac a bennwyd gan y barnwyr.

23. Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,

24. llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25. llosgiad am losgiad, clwyf am glwyf, a chlais am glais.

26. “Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.

27. Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.

28. “Pan yw ych yn cornio gŵr neu wraig i farwolaeth, llabyddier yr ych, ac nid yw ei gig i'w fwyta; ond ystyrier y perchennog yn ddieuog.

29. Ond os bu'r ych yn cornio yn y gorffennol, a'r perchennog wedi ei rybuddio ond eto heb gadw'r ych dan reolaeth, a hwnnw'n lladd gŵr neu wraig, llabyddier yr ych a rhoi ei berchennog i farwolaeth.

30. Os pennir pridwerth, y mae i dalu am ei fywyd yn llawn yn ôl y pridwerth a bennir.

31. Os yw'r ych yn cornio mab neu ferch, y mae'r un rheol yn dal.

32. Os yw'r ych yn cornio caethwas neu gaethferch, y mae ei berchennog i dalu i'r meistr ddeg sicl ar hugain o arian, ac y mae'r ych i'w labyddio.

33. “Pan yw rhywun yn gadael pydew ar agor, neu'n cloddio pydew a heb ei gau, ac ych neu asyn yn syrthio iddo,

34. y mae perchen y pydew i wneud iawn amdano trwy dalu arian i berchen yr anifail; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.

35. “Pan yw ych rhywun yn cornio ac yn lladd ych ei gymydog, yna y maent i werthu'r ych byw, a rhannu'r arian a geir amdano; y maent hefyd i rannu'r ych marw.

36. Ond os yw'n hysbys fod yr ych wedi cornio yn y gorffennol, a'i berchennog heb ei gadw dan reolaeth, y mae ef i dalu'n ôl yn llawn, a rhoi ych am ych; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21