Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. “Pwy bynnag sy'n cipio rhywun i'w werthu neu i'w gadw yn ei feddiant, rhodder ef i farwolaeth.

17. “Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

18. “Pan yw rhai'n cweryla, ac un yn taro'r llall â charreg neu â'i ddwrn, a hwnnw'n gaeth i'w wely, ond heb farw,

19. ac yna'n codi ac yn cerdded oddi amgylch â'i ffon, ystyrier y sawl a'i trawodd yn ddieuog; nid oes rhaid iddo ond ei ddigolledu am ei waith, a gofalu ei fod yn holliach.

20. “Pan yw rhywun yn taro'i gaethwas neu ei gaethferch â ffon, a'r caeth yn marw yn y fan, cosber y sawl a'i tarodd.

21. Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.

22. “Pan yw dynion wrth ymladd â'i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae'r dyn i dalu'r ddirwy sy'n ddyledus i'w gŵr ac a bennwyd gan y barnwyr.

23. Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,

24. llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25. llosgiad am losgiad, clwyf am glwyf, a chlais am glais.

26. “Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.

27. Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21