Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 21:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. “Pwy bynnag sy'n taro rhywun a'i ladd, rhodder ef i farwolaeth.

13. Os na chynlluniodd hynny, ond bod Duw wedi ei roi yn ei afael, caiff ffoi i'r lle a neilltuaf iti.

14. Os bydd rhywun yn ymosod yn fwriadol ar ei gymydog a'i ladd trwy frad, dos ag ef ymaith oddi wrth fy allor a'i roi i farwolaeth.

15. “Pwy bynnag sy'n taro'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16. “Pwy bynnag sy'n cipio rhywun i'w werthu neu i'w gadw yn ei feddiant, rhodder ef i farwolaeth.

17. “Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

18. “Pan yw rhai'n cweryla, ac un yn taro'r llall â charreg neu â'i ddwrn, a hwnnw'n gaeth i'w wely, ond heb farw,

19. ac yna'n codi ac yn cerdded oddi amgylch â'i ffon, ystyrier y sawl a'i trawodd yn ddieuog; nid oes rhaid iddo ond ei ddigolledu am ei waith, a gofalu ei fod yn holliach.

20. “Pan yw rhywun yn taro'i gaethwas neu ei gaethferch â ffon, a'r caeth yn marw yn y fan, cosber y sawl a'i tarodd.

21. Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 21