Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 2:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Atebodd merch Pharo, “Dos.” Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn.

9. Dywedodd merch Pharo wrth honno, “Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti.” Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu.

10. Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, “Tynnais ef allan o'r dŵr.”

11. Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr,

12. ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod.

13. Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebrëwr yn ymladd â'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, “Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?”

14. Atebodd yntau, “Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?” Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys.

15. Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew.

16. Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi dŵr er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad.

17. Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd.

18. Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, “Sut y daethoch yn ôl mor fuan heddiw?”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 2