Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 2:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Dywedasant hwythau, “Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi dŵr i ddyfrhau'r praidd.”

20. Yna gofynnodd yntau iddynt, “Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar ôl? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta.”

21. Cytunodd Moses i aros gyda'r gŵr, a rhoddodd yntau ei ferch Seffora yn wraig iddo.

22. Esgorodd hithau ar fab, a galwodd Moses ef yn Gersom, oherwydd dywedodd, “Dieithryn ydwyf mewn gwlad ddieithr.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 2