Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 19:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ddiwrnod cyntaf y trydydd mis wedi i'r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sinai.

2. Wedi iddynt ymadael â Reffidim a chyrraedd anialwch Sinai, cododd Israel wersyll yno gyferbyn â'r mynydd.

3. Aeth Moses i fyny at fynydd Duw, a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, “Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel:

4. ‘Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun.

5. Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.

6. Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel.”

7. Felly aeth Moses i alw henuriaid y bobl, a gosod o'u blaen yr holl eiriau hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 19