Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 17:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Felly dechreuodd y bobl ymryson â Moses, a dweud, “Rho inni ddŵr i'w yfed.” Ond dywedodd Moses wrthynt, “Pam yr ydych yn ymryson â mi ac yn herio'r ARGLWYDD?”

3. Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddŵr, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, “Pam y daethost â ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid â syched?”

4. Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, “Beth a wnaf â'r bobl hyn? Y maent bron â'm llabyddio!”

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil â hi, a dos ymlaen.

6. Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed.” Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel.

7. Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, “A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?”

8. Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim,

9. dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.”

10. Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn.

11. Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu.

12. Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul.

13. Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.”

15. Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi,

16. a dweud, “Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 17