Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 17:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.”

15. Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi,

16. a dweud, “Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 17