Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 14:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Estynnodd Moses ei law dros y môr, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y môr yn ei ôl â gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22. Aeth yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.

23. Erlidiodd yr Eifftiaid hwy, ac aeth holl feirch Pharo, ei gerbydau a'i farchogion, ar eu holau i ganol y môr.

24. Yn ystod gwyliadwriaeth y bore, edrychodd yr ARGLWYDD ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, a daliodd hwy

25. trwy gloi olwynion eu cerbydau a'i gwneud yn anodd iddynt yrru ymlaen. Yna dywedodd yr Eifftiaid, “Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aifft.”

26. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn dy law allan dros y môr er mwyn i'r dyfroedd lifo'n ôl dros yr Eifftiaid a'u cerbydau a'u marchogion.”

27. Felly estynnodd Moses ei law dros y môr, ac erbyn y bore yr oedd y môr wedi dychwelyd i'w le. Ceisiodd yr Eifftiaid ffoi rhagddo, ond bwriodd yr ARGLWYDD hwy i ganol y môr.

28. Dychwelodd y dyfroedd a gorchuddio'r cerbydau a'r marchogion, a holl fyddin Pharo oedd wedi dilyn yr Israeliaid i'r môr, heb adael yr un ohonynt ar ôl.

29. Ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.

30. Felly achubodd yr ARGLWYDD Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw, a gwelsant yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar lan y môr.

31. Pan welodd Israel y weithred fawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid, daethant i'w ofni ac i ymddiried ynddo ef ac yn ei was Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 14