Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 13:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Cysegra i mi bob cyntafanedig; eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth ymysg yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail.”

3. Yna dywedodd Moses wrth y bobl, “Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ caethiwed, oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â chwi oddi yno; hefyd, peidiwch â bwyta bara lefeinllyd.

4. Ar y dydd hwn ym mis Abib yr ewch allan.

5. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid a Jebusiaid, sef y wlad yr addawodd i'th hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ti, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, yr wyt i gadw'r ddefod hon yn ystod y mis hwn.

6. Am saith diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ac ar y seithfed dydd bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.

7. Bara croyw a fwyteir am saith diwrnod, ac ni fydd bara lefeinllyd na surdoes i'w weld yn unman o fewn dy dir.

8. Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, ‘Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.’

9. Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â thi allan o'r Aifft.

10. Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.

11. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid,

12. yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD.

13. Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 13