Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:40-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

40. Bu'r Israeliaid yn byw yn yr Aifft am bedwar cant tri deg o flynyddoedd.

41. Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i'r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.

42. Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

43. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: nid yw'r un estron i fwyta ohono,

44. ond caiff pob caethwas a brynwyd ag arian ei fwyta, os yw wedi ei enwaedu;

45. ni chaiff yr estron na'r gwas cyflog ei fwyta.

46. Rhaid ei fwyta mewn un tŷ; nid ydych i fynd â dim o'r cig allan o'r tŷ, ac nid ydych i dorri'r un asgwrn ohono.

47. Y mae holl gynulleidfa Israel i wneud hyn.

48. Os yw dieithryn sy'n byw gyda thi yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny ar yr amod fod pob gwryw sydd gydag ef yn cael ei enwaedu; fe fydd, felly, fel brodor.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12