Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:32-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Cymerwch eich defaid a'ch gwartheg hefyd, yn ôl eich dymuniad, ac ewch; bendithiwch finnau.”

33. Yr oedd yr Eifftiaid yn crefu ar y bobl i adael y wlad ar frys, oherwydd yr oeddent yn dweud, “Byddwn i gyd yn farw.”

34. Felly, cymerodd y bobl y toes cyn ei lefeinio, gan fod eu llestri tylino ar eu hysgwyddau wedi eu rhwymo gyda'u dillad.

35. Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn a ddywedodd Moses wrthynt, a gofyn i'r Eifftiaid am dlysau arian a thlysau aur a dillad;

36. am i'r ARGLWYDD beri i'r Eifftiaid edrych arnynt â ffafr, gadawsant i'r Israeliaid gael yr hyn yr oeddent yn gofyn amdano. Felly yr ysbeiliwyd yr Eifftiaid.

37. Yna teithiodd yr Israeliaid o Rameses i Succoth; yr oedd tua chwe chan mil o wŷr traed, heblaw gwragedd a phlant.

38. Aeth tyrfa gymysg gyda hwy, ynghyd â llawer iawn o anifeiliaid, yn ddefaid a gwartheg.

39. Yr oedd yn rhaid iddynt bobi'r toes yr oeddent wedi ei gario o'r Aifft yn deisennau croyw am nad oedd wedi ei lefeinio, oherwydd cawsant eu gyrru allan o'r Aifft heb gyfle i oedi nac i baratoi bwyd iddynt eu hunain.

40. Bu'r Israeliaid yn byw yn yr Aifft am bedwar cant tri deg o flynyddoedd.

41. Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i'r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.

42. Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

43. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: nid yw'r un estron i fwyta ohono,

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12