Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 10:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo, oherwydd yr wyf wedi caledu ei galon a chalon ei weision, er mwyn i mi ddangos yr arwyddion hyn o'm heiddo yn eu plith,

2. ac er mwyn i tithau ddweud wrth dy blant a phlant dy blant, fel y bûm yn trin yr Eifftiaid a gwneud arwyddion yn eu plith; felly, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.”

3. Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.

4. Os gwrthodi eu rhyddhau, fe ddof â locustiaid i mewn i'th wlad yfory;

5. byddant yn gorchuddio wyneb y tir fel na ellir ei weld, yn bwyta'r ychydig a adawyd i chwi ar ôl y cenllysg, ac yn bwyta pob coeden o'ch eiddo sy'n tyfu yn y maes.

6. Byddant yn llenwi dy dai, a thai dy weision i gyd, a thai'r holl Eifftiaid, mewn modd na welwyd ei debyg gan dy dadau na'th deidiau, o'r dydd y buont ar y ddaear hyd heddiw.” Yna trodd ac aeth allan o ŵydd Pharo.

7. Dywedodd gweision Pharo wrtho, “Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?”

8. Felly daethpwyd â Moses ac Aaron yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthynt, “Cewch fynd i addoli'r ARGLWYDD eich Duw; ond pa rai ohonoch sydd am fynd?”

9. Dywedodd Moses, “Byddwn yn mynd gyda'r ifainc a'r hen, gyda'n meibion a'n merched, gyda'n defaid a'n gwartheg, oherwydd rhaid inni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD.”

10. Dywedodd yntau wrthynt, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi os byth y rhyddhaf chwi a'ch rhai bychain! Edrychwch, rhyw ddrwg sydd gennych mewn golwg.

11. Na, y gwŷr yn unig a gaiff fynd i addoli'r ARGLWYDD, oherwydd dyna oedd eich dymuniad.” Yna fe'u gyrrwyd allan o ŵydd Pharo.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law dros wlad yr Aifft er mwyn i'r locustiaid ddisgyn ar dir yr Aifft, a bwyta holl lysiau'r ddaear a'r cyfan a adawyd ar ôl y cenllysg.”

13. Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid.

14. Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto.

15. Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar ôl y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar ôl ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft.

16. Brysiodd Pharo i anfon am Moses ac Aaron a dweud, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw ac yn eich erbyn chwithau.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 10