15. Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,
16. “Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw.”
17. Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.
18. Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, “Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?”
19. Dywedasant hwythau wrth Pharo, “Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd.”
20. Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.
21. Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd.
22. Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, “Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw.”