Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:

2. Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,

3. Issachar, Sabulon a Benjamin,

4. Dan a Nafftali, Gad ac Aser.

5. Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.

6. Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 1