Hen Destament

Testament Newydd

Esther 7:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Felly aeth y brenin a Haman i wledda gyda'r Frenhines Esther.

2. Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, “Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei.”

3. Atebodd y Frenhines Esther, “Os cefais ffafr yn dy olwg, ac os gwêl y brenin yn dda, fy nghais a'm dymuniad yw fy mod i a'm pobl yn cael ein harbed.

4. Oherwydd yr wyf fi a'm pobl wedi ein gwerthu i'n dinistrio a'n lladd a'n difa. Pe baem wedi ein gwerthu'n gaethweision ac yn gaethferched, ni ddywedwn i ddim; oherwydd ni fyddai ein trafferthion ni i'w cymharu â cholled y brenin.”

5. Dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther, “Pwy yw'r un a feiddiodd wneud y fath beth, a pha le y mae?”

6. Meddai hithau, “Y gelyn a'r gwrthwynebwr yw'r Haman drwg hwn.” Brawychwyd Haman yng ngŵydd y brenin a'r frenhines.

7. Cododd y brenin yn ei lid, a mynd o'r wledd i ardd y palas; ond arhosodd Haman i ymbil â'r Frenhines Esther am ei einioes, oherwydd gwelodd fod y brenin wedi penderfynu dial arno.

8. Pan ddychwelodd y brenin o'r ardd i'r lle yr oeddent yn gwledda, yr oedd Haman yn plygu wrth y gwely lle'r oedd Esther. Meddai'r brenin, “A yw hefyd am dreisio'r frenhines, a minnau yn y tŷ?” Cyn gynted ag y dywedodd y brenin hyn, gorchuddiwyd wyneb Haman.

9. Yna dywedodd Harbona, un o'r eunuchiaid oedd yn gweini ar y brenin, “Y mae'r crocbren hanner can cufydd o uchder, a wnaeth Haman ar gyfer Mordecai, y gŵr a achubodd y brenin â'i neges, yn sefyll ger tŷ Haman.” Dywedodd y brenin, “Crogwch ef arno.”

10. Felly crogwyd Haman ar y crocbren a baratôdd ar gyfer Mordecai. Yna lliniarodd llid y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 7