Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esther 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Haman yn Ceisio Difa'r Iddewon

1. Ar ôl hyn dyrchafodd y Brenin Ahasferus Haman fab Hammedatha yr Agagiad, a rhoi iddo le blaenllaw, gan ei osod yn uwch na'r holl dywysogion oedd gydag ef.

2. Ac yr oedd pob un o'r gweision ym mhorth llys y brenin yn ymgrymu ac yn ymostwng iddo, yn ôl gorchymyn y brenin. Ond nid oedd Mordecai yn ymostwng nac yn ymgrymu iddo.

3. Dywedodd gweision y brenin a oedd yn y porth wrth Mordecai. “Pam yr wyt yn torri gorchymyn y brenin?”

4. Ond er eu bod yn gofyn hyn iddo'n feunyddiol, ni wrandawai arnynt. Felly dywedasant wrth Haman, er mwyn gweld a fyddai Mordecai'n dal ei dir, oherwydd yr oedd wedi dweud wrthynt ei fod yn Iddew.

5. Pan welodd Haman nad oedd Mordecai am ymostwng nac ymgrymu iddo, gwylltiodd yn enbyd.

6. Wedi clywed i ba genedl yr oedd Mordecai yn perthyn, nid oedd yn fodlon ymosod ar Mordecai yn unig, ond yr oedd yn awyddus i ddifa cenedl Mordecai, sef yr holl Iddewon yn nheyrnas Ahasferus.

7. Yn neuddegfed flwyddyn y Brenin Ahasferus, yn y mis cyntaf, sef Nisan, bwriasant Pwr (hynny yw, coelbren) o flaen Haman i ddewis dydd a mis, ac fe syrthiodd y coelbren ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.

8. Dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus, “Y mae yna genedl, wedi ei chwalu a'i gwasgaru ymhlith y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas, sy'n ei chadw ei hun ar wahân. Y mae eu cyfreithiau'n wahanol i rai pawb arall, ac nid ydynt yn cadw cyfreithiau'r brenin; nid yw er lles y brenin eu goddef.

9. Os cydsynia'r brenin i orchymyn eu difa, yna fe dalaf fi ddeng mil o dalentau arian i'r trysordy brenhinol ar gyfer y rhai sy'n gwneud hyn.”

10. Yna tynnodd y brenin ei fodrwy oddi ar ei law a'i rhoi i Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon,

11. a dweud wrtho, “Cadw'r arian, a gwna fel y mynni â'r bobl.”

12. Yna ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf, galwyd ar ysgrifenyddion y brenin, ac ar orchymyn Haman ysgrifennwyd at bendefigion y brenin, rheolwyr pob talaith a thywysogion pob cenedl, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun. Yr oedd y wŷs wedi ei hysgrifennu yn enw'r Brenin Ahasferus ac wedi ei selio â'r fodrwy frenhinol.

13. Yna anfonwyd negeswyr gyda llythyrau i holl daleithiau'r brenin yn gorchymyn dinistrio, lladd a difa pob Iddew, yn llanc a hynafgwr, plant a gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo, ar yr un diwrnod, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hynny yw, Adar.

14. Yr oedd copi o'r wŷs i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobl er mwyn iddynt fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.

15. Aeth y negeswyr allan ar frys yn ôl gorchymyn y brenin, a chyhoeddwyd y gorchymyn yn Susan y brifddinas. Yna eisteddodd y brenin a Haman i yfed; ond yr oedd dinas Susan yn drist.