Hen Destament

Testament Newydd

Esra 9:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi hyn daeth y swyddogion ataf a dweud, “Nid yw pobl Israel, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth bobloedd y gwledydd nac oddi wrth ffieidd-dra'r Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Amoriaid.

2. Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â phobloedd y gwledydd; a'r prif droseddwyr yn y camwedd hwn yw'r swyddogion a'r penaethiaid.”

3. Pan glywais hyn rhwygais fy nillad a'm mantell, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn.

4. Ac oherwydd camwedd y rheini oedd wedi bod yn y gaethglud, daeth ataf bawb oedd yn ofni geiriau Duw Israel, ac eisteddais innau yno'n syn hyd offrwm y prynhawn.

5. Ar adeg offrwm y prynhawn codais o'm cyflwr darostyngedig, a'm dillad a'm mantell wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw,

6. a dweud: “O fy Nuw, yr wyf mewn gwaradwydd, ac y mae cywilydd mawr arnaf godi fy wyneb atat, O Dduw, oherwydd y mae'n camweddau wedi codi'n uwch na'n pennau, a'n heuogrwydd wedi cynyddu hyd y nefoedd.

7. O ddyddiau ein hynafiaid hyd yn awr, mawr fu ein trosedd, ac o achos ein camweddau fe'n rhoed ni, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, yng ngafael brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, i anrhaith ac i warth, fel y mae heddiw.

8. Ond yn awr, am ennyd, bu'r ARGLWYDD ein Duw yn raslon tuag atom a gadael inni weddill a rhoi sicrwydd inni yn ei le sanctaidd, er mwyn iddo oleuo ein llygaid a'n hadfywio am ychydig yn ein caethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 9