Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gŵr deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;

19. hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt;

20. a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol â threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.

21. Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddïo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo.

22. Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, “Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu.”

23. Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.

24. Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, a hefyd Serebeia a Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwy,

25. a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i dŷ ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy.

26. Rhoddais iddynt chwe chant a hanner o dalentau arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,

27. ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddariciau, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 8