Hen Destament

Testament Newydd

Esra 8:10-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. O deulu Bani, Selomith fab Josiffeia, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.

11. O deulu Bebai, Sechareia fab Bebai, a dau ddeg ac wyth o ddynion gydag ef.

12. O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.

13. Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy;

14. ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.

15. Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.

16. Yna gelwais am y penaethiaid Elieser, Ariel, Semeia, Elnathan, Jarib, Elnathan, Nathan, Sechareia a Mesulam, ac am y doethion Joiarib ac Elnathan,

17. a'u hanfon at Ido, y pennaeth yng nghanolfan Chasiffeia; rhois iddynt neges i'w chyflwyno i Ido a'i frodyr, gweision y deml, oedd yn Chasiffeia, yn gofyn iddo anfon atom wasanaethyddion ar gyfer tŷ ein Duw.

18. Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gŵr deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;

19. hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt;

20. a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol â threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.

21. Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddïo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo.

22. Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, “Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu.”

23. Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.

24. Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, a hefyd Serebeia a Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwy,

25. a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i dŷ ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 8