Hen Destament

Testament Newydd

Esra 7:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Â'r arian yma gofala brynu teirw, hyrddod ac ŵyn, gyda'u bwydoffrwm a'u diodoffrwm, a'u haberthu ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.

18. Â gweddill yr arian a'r aur cei di a'th gymrodyr wneud fel y gwelwch orau, yn ôl ewyllys eich Duw.

19. Am y llestri a roddwyd i ti at wasanaeth tŷ dy Dduw, gosod hwy o'i flaen yn Jerwsalem.

20. A pha beth bynnag arall sy'n angenrheidiol i dŷ dy Dduw, ac y disgwylir i ti ei roi, rho ef o storfa'r brenin.

21. Ac yr wyf fi, y Brenin Artaxerxes, yn rhoi'r gorchymyn hwn i holl drysoryddion talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates: Rhowch yn ddiymdroi bob peth a ofynnir ichwi gan Esra'r offeiriad, ysgrifennydd cyfraith Duw'r nefoedd,

22. hyd at gan talent o arian, can mesur yr un o wenith, gwin ac olew, a halen heb fesur.

23. Gwnewch bopeth ar gyfer tŷ Duw'r nefoedd yn union fel y mae Duw'r nefoedd wedi ei orchymyn, rhag iddo lidio yn erbyn teyrnas y brenin a'i feibion.

24. Yr ydym hefyd yn eich hysbysu nad yw'n gyfreithlon gosod treth, teyrnged na tholl ar neb o offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision na gweinidogion tŷ Dduw.

25. A thithau, Esra, yn unol â'r ddoethineb ddwyfol sydd gennyt, ethol swyddogion a barnwyr i farnu pawb yn Tu-hwnt-i'r-Ewffrates sy'n gwybod cyfraith dy Dduw, ac i ddysgu pawb sydd heb ei gwybod.

26. Pob un nad yw'n cadw cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, dyger ef yn ddi-oed i farn, a'i ddedfrydu naill ai i farwolaeth neu i alltudiaeth neu ddirwy neu garchar.”

27. Yna dywedodd Esra: “Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw ein hynafiaid, a symbylodd y brenin i harddu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem,

Darllenwch bennod gyflawn Esra 7