Hen Destament

Testament Newydd

Esra 7:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn, yn nheyrnasiad Artaxerxes brenin Persia, daeth Esra i fyny o Fabilon; hwn oedd Esra fab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,

2. fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,

3. fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,

4. fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,

5. fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr archoffeiriad.

6. Yr oedd Esra yn ysgrifennydd hyddysg yng nghyfraith Moses, a roddwyd gan ARGLWYDD Dduw Israel; ac am ei fod yn derbyn ffafr gan yr ARGLWYDD ei Dduw, cafodd y cwbl a ddymunai gan y brenin.

7. Yn y seithfed flwyddyn i'r Brenin Artaxerxes, dychwelodd i Jerwsalem gyda rhai o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r cantorion a'r porthorion a gweision y deml;

8. a chyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis yn seithfed flwyddyn y brenin.

9. Yr oedd wedi cychwyn ar y daith o Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis; yr oedd Esra wedi cael ffafr gan ei Dduw,

10. oherwydd iddo ymroi i chwilio cyfraith yr ARGLWYDD a'i chadw, ac i ddysgu deddfau a chyfreithiau yn Israel.

11. Dyma gopi o'r llythyr a roes y Brenin Artaxerxes i Esra'r offeiriad a'r ysgrifennydd, un cyfarwydd â chynnwys gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ddeddfau i Israel:

Darllenwch bennod gyflawn Esra 7