Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10

Hen Destament

Testament Newydd

Esra 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Ailddechrau Adeiladu'r Deml

1. Ond wedi i'r proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, broffwydo yn enw Duw Israel i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem,

2. dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ailadeiladu tŷ Dduw yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi Duw gyda hwy yn eu cefnogi.

3. Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, “Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?”

4. Gofynasant hefyd, “Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?”

5. Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater.

6. Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius.

7. A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: “I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8. Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tŷ'r Duw mawr yn cael ei adeiladu â cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.

9. Yna gofynasom i'r henuriaid, ‘Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?’

10. Gofynasom hefyd iddynt am eu henwau fel y medrem gofnodi enwau eu harweinwyr a rhoi gwybod i ti.

11. A dyma'r ateb a gawsom: ‘Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tŷ a godwyd lawer o flynyddoedd yn ôl; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen.

12. Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tŷ hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon.

13. Ond ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, rhoes Cyrus brenin Babilon orchymyn i ailadeiladu'r tŷ hwn.

14. Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i dŷ Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i ŵr o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.

15. Dywedodd wrtho, “Cymer y llestri yma, a dos â hwy i'r deml sydd yn Jerwsalem, a bydded i dŷ Dduw gael ei adeiladu ar ei hen safle.”

16. Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’

17. Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglŷn â'r mater.”