1. Pan glywodd gelynion Jwda a Benjamin fod y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud yn adeiladu teml i ARGLWYDD Dduw Israel,
2. daethant at Sorobabel a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi, oherwydd yr ydym ni yn addoli eich Duw fel chwithau, ac iddo ef yr ydym wedi aberthu er amser Esarhadon brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”
3. Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a gweddill pennau-teuluoedd Israel: “Ni chewch chwi ran yn y gwaith o adeiladu tŷ i'n Duw; ni yn unig sydd i adeiladu i ARGLWYDD Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”
4. Yna dechreuodd pobl y wlad ddigalonni pobl Jwda a pheri iddynt ofni adeiladu;
5. a holl ddyddiau Cyrus brenin Persia hyd at deyrnasiad Dareius brenin Persia cyflogasant gynghorwyr llys yn eu herbyn i ddrysu eu bwriad.
6. Yn nechrau teyrnasiad Ahasferus gwnaethant gyhuddiad ysgrifenedig yn erbyn preswylwyr Jwda a Jerwsalem.
7. Hefyd yn amser Artaxerxes ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel a'r gweddill o'u cefnogwyr at Artaxerxes brenin Persia; yr oedd y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, a dyma'i gynnwys mewn Aramaeg.