Hen Destament

Testament Newydd

Esra 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd y bobl fel un gŵr i Jerwsalem.

2. A dechreuodd Jesua fab Josadac a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i frodyr, ailadeiladu allor Duw Israel er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gŵr Duw.

3. Er eu bod yn ofni'r bobloedd oddi amgylch, codasant yr allor yn ei lle, ac aberthu arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD fore a hwyr.

4. Yr oeddent yn dathlu gŵyl y Pebyll fel yr oedd yn ysgrifenedig, ac yn aberthu'n ddyddiol y nifer priodol o boethoffrymau ar gyfer pob dydd.

5. Ar ôl hyn yr oeddent yn aberthu'r poethoffrymau cyson, a'r rhai ar gyfer y newydd-loerau a holl wyliau penodedig yr ARGLWYDD, a'r holl aberthau a roddid yn wirfoddol i'r ARGLWYDD.

6. Dechreusant aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd sylfaen teml yr ARGLWYDD wedi ei gosod.

7. Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod ac olew i'r Sidoniaid a'r Tyriaid i ddod â chedrwydd dros y môr o Lebanon i Jopa trwy ganiatâd Cyrus brenin Persia.

8. Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddynt ddychwelyd i dŷ Dduw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ar y gwaith gyda'r gweddill o'u brodyr, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem; a phenodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith tŷ'r ARGLWYDD.

9. Jesua a'i feibion a'i frodyr oedd yn gyfrifol am arolygu'r gweithwyr yn nhŷ Dduw, a chyda hwy yr oedd y Jwdead Cadmiel a'i feibion, a meibion Henadad a'u meibion hwythau, a'u brodyr y Lefiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 3