Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:61-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

61. Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

62. Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,

63. a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.

64. Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg,

65. heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau.

66. Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,

67. pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.

68. Pan ddaethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tŷ Dduw ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu.

69. Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.

70. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem, a'r cantorion, y porthorion a gweision y deml yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn eu trefi eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2