Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd i Fabilon gan Nebuchadnesar brenin Babilon; daethant yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.

2. Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum a Baana. Rhestr pobl Israel:

3. teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;

4. teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;

5. teulu Ara, saith gant saith deg a phump;

6. teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;

7. teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;

8. teulu Sattu, naw cant pedwar deg a phump;

9. teulu Saccai, saith gant chwe deg;

10. teulu Bani, chwe chant pedwar deg a dau;

11. teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri;

12. teulu Asgad, mil dau gant dau ddeg a dau;

13. teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a chwech;

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2