17. ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.
18. Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.
19. Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.
20. O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.
21. O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia.
22. O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa.
23. O'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser.
24. O'r cantorion: Eliasib. O'r porthorion: Salum, Telem ac Uri.
25. O Israel, o feibion Paros: Rameia, Jeseia, Malcheia, Miamin, Eleasar, Malcheia a Benaia.
26. O feibion Elam: Mataneia, Sechareia, Jehel, Abdi, Jeremoth ac Eleia.
27. O feibion Sattu: Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad ac Asisa.
28. O feibion Bebai: Jehohanan, Hananeia, Sabai ac Athlai.
29. O feibion Bani: Mesulam, Maluch, Adaia, Jasub, Seal a Ramoth.
30. O feibion Pahath-moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, Binnui a Manasse.
31. O feibion Harim: Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
32. Benjamin, Maluch a Semareia.