Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 7:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Pen Syria yw Damascus,a phen Damascus yw Resin.Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio â bod yn bobl.

9. Pen Effraim yw Samaria,a phen Samaria yw mab Remaleia.Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.’ ”

10. Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,

11. “Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd.”

12. Ond atebodd Ahas, “Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf.”

13. Dywedodd yntau, “Gwrandewch yn awr, tŷ Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd?

14. Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.

15. Bydd yn bwyta menyn a mêl pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da.

16. Cyn i'r plentyn wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da, fe ddifrodir tir y ddau frenin yr wyt yn eu hofni.

17. Bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnat ti ac ar dy bobl ac ar dŷ dy dad ddyddiau na fu eu tebyg er pan dorrodd Effraim oddi wrth Jwda—brenin Asyria.”

18. Yn y dydd hwnnwchwibana'r ARGLWYDD am y gwybedyn o afonydd pell yr Aifft,ac am y wenynen o wlad Asyria;

19. fe ddônt ac ymsefydlu i gyd yn yr hafnau serthac yn agennau'r creigiau,ar yr holl goed drainac ar yr holl borfeydd.

20. Yn y dydd hwnnwbydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates,brenin Asyria,yn eillio'r holl ben a blew'r traed,a thorri ymaith y farf hefyd.

21. Yn y dydd hwnnwbydd rhywun yn cadw'n fyw heffer a dwy ddafad;

22. a chaiff ganddynt ddigon o laethi fedru bwyta menyn;canys bwyteir menyn a mêlgan bob un a adewir yn y wlad.

23. Yn y dydd hwnnwbydd pob man lle bu mil o winwydd,gwerth mil o ddarnau arian,yn fieri ac yn ddrain.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 7