Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 7:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.

2. Yr oedd tŷ Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 7