Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 7:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn ystod dyddiau Ahas fab Jotham, fab Usseia, brenin Jwda, daeth Resin brenin Syria, a Pheca fab Remaleia, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Jerwsalem, ond methu ei gorchfygu.

2. Yr oedd tŷ Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.

3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos allan, a'th fab Sear-jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr,

4. a dywed wrtho, ‘Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid â digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.

5. Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud,

6. “Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,”

7. dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud:“ ‘Ni saif hyn, ac ni ddigwydd.

8. Pen Syria yw Damascus,a phen Damascus yw Resin.Cyn diwedd pum mlynedd a thrigain bydd Effraim wedi ei dryllio a pheidio â bod yn bobl.

9. Pen Effraim yw Samaria,a phen Samaria yw mab Remaleia.Oni fyddwch yn sefydlog, ni'ch sefydlogir.’ ”

10. Llefarodd yr ARGLWYDD eto wrth Ahas, a dweud,

11. “Gofyn am arwydd gan yr ARGLWYDD dy Dduw, arwydd o ddyfnder Sheol neu o uchder nefoedd.”

12. Ond atebodd Ahas, “Ni ofynnaf, ac nid wyf am osod yr ARGLWYDD ar brawf.”

13. Dywedodd yntau, “Gwrandewch yn awr, tŷ Dafydd. Ai peth bach yn eich golwg yw trethu amynedd pobl, a'ch bod am drethu amynedd fy Nuw hefyd?

14. Am hynny, y mae'r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel.

15. Bydd yn bwyta menyn a mêl pan ddaw i wybod sut i wrthod y drwg a dewis y da.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 7