Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. “Prun ai lladd ych ai lladd dyn,ai aberthu oen ai tagu ci,ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch,ai arogldarthu thus ai bendithio eilun,dewis eu ffordd eu hunain y maent,ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra

4. Ond dewisaf fi ofid iddynt,a dwyn arnynt yr hyn a ofnant;oherwydd pan elwais, ni chefais ateb,pan leferais, ni wrandawsant;gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf,a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”

5. Clywch air yr ARGLWYDD,chwi sy'n parchu ei air:“Dywedodd eich tylwyth sy'n eich casáu,ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw,‘Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu,er mwyn i ni weld eich llawenydd.’Ond cywilyddir hwy.

6. Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml,sŵn yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.

7. “A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau?A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?

8. A glywodd rhywun am y fath beth?A welodd rhywun rywbeth tebyg?A ddaw gwlad i fod mewn un dydd?A enir cenedl ar unwaith?Ond gyda bod Seion yn clafychu,bydd yn esgor ar ei phlant.

9. A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?”medd yr ARGLWYDD.“A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?”medd dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66