Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.

17. “Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod—daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad,” medd yr ARGLWYDD.

18. “Rwyf fi'n dod i gasglu ynghyd bob cenedl ac iaith; a dônt i weld fy ngogoniant.

19. Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sôn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.

20. Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dônt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem,” medd yr ARGLWYDD, “yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr glân i dŷ'r ARGLWYDD.

21. A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” medd yr ARGLWYDD.

22. “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd,yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD,“felly y parha eich had a'ch enw chwi.

23. O fis i fis, o Saboth i Saboth,daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen,” medd yr ARGLWYDD.

24. “Ac ânt allan a gweldcelanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn;ni bydd eu pryf yn marw,na'u tân yn diffodd;a byddant yn ffiaidd gan bawb.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66